This is David Celyddon Phillips’ letter about the Johnstown Flood of 1889, transcribed by Arthur O’Dwyer (2025).

See also a translation (in English); and newspaper clippings about Celyddon.





“Celyddon yn adrodd yr hanes.” In Tarian y Gweithiwr (The Worker’s Shield) of Thursday, August 1, 1889, page 2.

Johnstown, Pennsylvania, Gorph. 3.—Fel y canlyn y bu arnom fel teulu dydd difrod Johnstown:—Boreu y dinystr, yn fuan ar ol boreufwyd, aethum allan, ac er fy syndod, yr oedd ffrwd gref o ddwfr yn llifo i lawr Main Street, gan mor drwm yr oedd y gwlaw wedi disgyn y nos flaenorol, a pharhaodd y ffrwd i gynyddu mewn nerth hyd haner dydd, pan aeth fy mrawd Seth at ei wraig a’i blentyn i dy ei fam-yn-nghyfraith ar ochr y bryn, allan o gyraedd pob perygl. Yr oeddwn i a’r teulu—y wraig a phedwar o blant, wedi ein cau gan ddwfr yn y ty, ond heb freuddwydio fod perygl, gan ein bod yn nghanol y dref. Yn fuan ar ol ciniawa, daeth y dwfr i’r ty, ond nid cyn i ni symud pob peth ag a allasem i’r llofft, ac aethom a dwfr ac ychydig luniaeth yno gyda ni, gan feddwl swpera yn gysurus o afael y dwfr. Two storey wedi ei wneud o briddfeini oedd y ty, ond yr oedd dau dy priddfeini cryf ac uchel o bob tu i mi.

Tynodd y plant eu hesgidiau, a’r rhan fwyaf o’u dillad uwchaf, ac yr oeddynt yn difyru eu hunain yn y llyfrgell, ffenestri yr hon oeddynt yn gwynebu ar gyfeiriad South Fork—cartrefle y llyn dinystriol. Gallasem weled yn agos i ddwy filldir i fyny i’r dyffryn. Yr oeddwn i yn darllen, a’r wraig yn ymgomio â’r plant; ond sylwn fod ei llais a’i hysgogiadau yn bradychu pryder ac ofn. Yn mhen ychydig, dywedais wrthi am beidio ofni, ein bod yn berffaith ddyogel, eithr nid oedd yn cydsynio a’m barn, er na ddywedodd yr un gair. Yn sydyn, mewn llais cynhyrfus, eithr isel, dywedodd, “Edrychwch allan!” Edrychais allan, a gwelwn ar unwaith fod y llyn wedi tori. Nid oeddwn wedi meddwl am ei fodolaeth yn ystod y dydd cyn hyny, ac ni chlywais neb arall yn crybwyll am dano.

Dywedais wrth y teulu am fod yn dawel, y buasai haner y dref yn boddi, ac mai mewn bod yn dawel a pheidio gwylltio, ond ymddiried yn Nuw, oedd ein dyogelwch. Nid oes achos i mi ddweyd mai nid fel dwfr yr edrychai y cenllif aruthrol, ond fel y dyffryn, yn dai, yn goed, yn bontydd, yn weithfeydd, yn bob peth yn cael eu cario ymaith gan angelgawr cynddeiriog. Yr oedd pob llwybr rhyngom a’r garret wedi ei gau, ac aethom i fewn i’r drydedd ystafell o’r llyfrgell, gan gau pob drws ar ein hol er cadw allan bob ysbwriel ag oedd ar wyneb y dwfr, ac fel na fuasai genym ddim ond dwfr, er ei fod yn afiach, i ymladd ag ef. Yr oedd yn yr ystafell hen Book Case uchel, bron mor uchel a’r ystafell, a sicrheais ef wrth y mur goreu medrwn, a gosodais y pedwar plentyn ar ei ben, a dywedais wrth y wraig am hongian wrtho, ac y buaswn i yn gwneud fy ngoreu i’w ddal i fyny.

Erbyn hyn yr oedd ty coed mawr cymydog oedd ar yr heol nesaf atom wedi ei daflu i ben ystafell y llyfrgell, ac wedi chwalu yr ystafell yn chwilfriw hyd y seiliau isaf; ac ar yr un eiliad torodd y ty uchel cadarn ar y dde i ni yn ei haner, a boddodd dau o’r plant. Gwelwn drwy y ffenestr—allan o bob help—o ddwsin i ugain o bersonau yn ymdagu yn y llifeiriant, y rhan fwyaf yn gweddio, ond clywais amryw yn cablu. Yr oedd y plant yn gweled, ac yr oedd yr ysgrechfeydd yn eu dychrynu yn fwy na’r dwfr. Dywedais wrthynt am adrodd gweddi’r Arglwydd gyda’u gilydd, ac y buasai eu Tad nefol yn sicr o’u hachub, ond yr oedd Ossie, yr ieuengaf, yn gwaeddi yn bur effeithiol bob tro ar ol yr Amen—“Papa, open the window, and let this water go out.” Yr unig ateb oedd yn ei gael oedd gwên serchus. Buan y syrthiodd yr ystafell nesaf atom, ac yr oedd pedair troedfedd o ddwfr yn ein hystafell. Llonyddodd y dwfr, a thybiais fod y gwaethaf drosodd. Bu dyspeidiad, ond ar amrantiad wele y backwater yn rhuthro arnom nes oedd y ty yn crynu, a’r wraig a minan hyd yr ên mewn dwfr. Digalonodd y wraig, eithr teflais fy nghôt i ffwrdd, a deliais ei phen, a hithau wedi llewygu, uwchlaw y dwfr, a dyna ein merch fach yn gwaeddi, “Nhad, y mae wedi myned i lawr fodfedd,” gan bwyntio at y mur. Yr oedd wedi myned i lawr fodfedd! Yn mhen awr a haner nid oedd ychwaneg na throedfedd a haner o ddwfr yn yr ystafell.

Yr oedd mur rhyngom a’r ystafell ag oedd yn gwynebu Main Street. “O na buasai genym fwyell,” meddwn. “Dyma hi,” meddai Dafydd, yr ail fachgen. Yr oedd wedi dyfod a bwyell fechan o’r gegin pan ddaeth i fyny, a phan redasom i’r ystafell ag oeddym ynddi, daeth a hi yn ei law, ac yr oedd ar ben y Book Case gydag ef. Torais y mur, ond cyn fy mod wedi gwneud lle i neb i fyned drwyddo, slipiodd y fwyell o’m llaw i’r ystafell o’m blaen. Beth bynag, gorphenais hyny o orchwyl yn dra hawdd a’m dwylaw. Aethom allan i ffenestr y Main Street. Cynorthwyodd un Mr. Klein ni i fewn i’r drws nesaf, ac yr oeddym yn ddyogel. Ni wlychodd yr un o’r plant hyd yn nod ei draed; a chawsant wely clyd i orphwys y noson ddu hono. Cododd perygl arall—taniodd yr eglwys Babaidd, a gwylio fflamau yr eglwys hono a fflamau creulawn pont y railway fu’m i a’r wraig drwy y nos, a meddwl am ein cymydogion—yn benaf ein cydgenedl ag oeddym yn sicr eu bod wedi eu colli o’r ddaear hon am byth. Dyna ein hanes ni fel teulu yn gywir i chwi. Credir yma yn gyffredinol nad oes llai na deg mil wedi eu colli. Collwyd dros haner cant, rhwng gwyr, gwragedd a phlant, o eglwys y Trefnyddion Calfinaidd. Yr eiddoch yn brudd.—Celyddon.