This is a collection of newspaper items about David Celyddon Phillips, collected and transcribed by Arthur O’Dwyer (2025).

Poet David C. Phillips, whose bardic name was Celyddon, was born in Narberth 1848-05-28; emigrated to America 1874-05-28; settled in Johnstown, Pennsylvania, circa 1878–1880, and Scranton, Pennsylvania, by 1900; and died in Scranton 1915-12-04. He is buried in Scranton’s Washburn Street cemetery.

David Celyddon Phillips (1848–1915) married Mary Evans (1844–1925) and had four children: Martha Eleanor Phillips (1878–1959), [Shem] Arthur Phillips (1880–1962), David Wendell Phillips (1883–1955), and Roswell Phillip Phillips (1884–1944). Shem Arthur married Helen Marr Booz (1878–1938) and had four children: David Newell Phillips (1906–1983), Arthur Phillips Jr. (1907–1973), Frank Roswell Phillips (1915–1995), and Helen Mary Phillips (1919–1983). [At some point Shem Arthur remarried, to Gladys M. Montgomery (1901–1976), and had one more child: Montgomery Evans Phillips.] Helen married Anthony Francis Dwyer (1913–1977) and had two children: Anthony Philip Dwyer (1949—) and Ellen Newell Dwyer (1952—). Anthony married Virginia Lee Downes (1950—) and had one child: Arthur Joseph O’Dwyer (1984—).

This makes Celyddon my great-great-grandfather (on my grandmother’s side).





Published works by David Celyddon Phillips, as far as I can tell, include:

Celyddon is not to be confused with another D. C. Phillips active at the same time, a Congregationalist minister rather than a Calvinistic Methodist:


“Bu Farw.” In Y Gwladgarwr (Aberdare) of Saturday, May 8, 1869, page 5.

Bu farw,—

[...] Mai 2, 1869, yn 20 oed, Watkin Phillips, anwyl fab Mrs. M. Phillips, ac unig frawd W. Phillips, (Gwilym Cynon), Aberaman. Cafodd gystudd maith a blin. Ei glefyd oedd y darfodedigaeth—gwywodd yn araf. Yr oedd yn fachgen ieuanc o gerddor gwych, ac yn hynaws a charedig ei ysbryd. Bu yn fab ufydd i’w fam. Efe oedd ei hunig obaith am nawdd tymorol, (y mae Gwilym, yn briod,) ond machludodd ei haul yn ei angau! Barnwr y gweddwon a’i hamddiffyno.

O Watkin hoff! byr fu dy oes    I’n golwg ni; Ond nid rhy fyr i’r stormydd croes    Dy guro di; Yn nyffryn galar wrth dy hun, Y deliais; faich afiechyd blin,    Yn lleddf dy gri. Alarwyr hoff, na syllwch lawr   I’w feddrod prudd; Ond syllwch ar y nefol wawr,   A golwg ffydd; Aeth ef yu iach i’r dwyfol hoen, Ail seraph yw yn ngwydd yr Oen,   Mae’n fythol rydd!

        Celyddon.


“Englynion Priodasol.” In Y Gwladgarwr (Aberdare) of Saturday, June 17, 1871, page 7. Succeeds a poem by Nathan Wyn and precedes another by Dyfedfab.

[illegible] Mr. T. Thomas, Cardiff Road, a Miss Mary Rees, Graig House, Aberdar.
Difraw yr unwyd dwyfren—o garlad    Goreu cywir galon;   Bu llaw serch mewn purdeb llon   Yn acenu ’u hamcanion. Mae’r brawd yn awr a Mair bron—o afael    Gofid, mewn gobeithion,   Ac heulied serch eu calon   Drwy grau aur y fodrwy gron. Mair yn wyl gymares—a gefaist,    O! gyfaill dirodres,   Ac hinon dy deg hanes   Mwy a fo dan dô o des. Taweled, dystawed pob ton,—eled    O’r golwg i’r eigion;   Priodas o urddas hon,   Na chured tonau chwerwon.

        Celyddon.


An advertisement in In Y Gwladgarwr (Aberdare) of Saturday, May 3, 1873, page 7.

Yn y wasg, ac i fod yn barod yn fuan, pris 1s.

CERDDI CELYDDON.

Dymuna yr awdwr ddiolch yr aml heir eu rhif yn hwylus ac yn galonogol. Bwr iedir cyhoeddi list o’u henwau ar ddiwedd llyfr.

Cyfeirier,—D. Phillips (Celyddon), Aberaman, Aberdar.


“Cerddi Celyddon” (review). In Y Gwladgarwr (Aberdare) of Saturday, June 21, 1873, page 2.

Cerddi Celyddon. Aberdar: Argraffwyd gan W. Lloyd (Gwladgarwr).

Er nad yw Celyddon ond pur ieuanc, y mae efe wedi profi ei hun yn fardd o uchel awen, ac wedi cyfansoddi cerddi a fyddant fyw tra bo’r hen Omeraeg. Feallai nad oes un o’n beirdd ieuainc yn Nghymru yn meddu ar gymaint o athrylith gwir awenyddol ag efe. Y mae cyfoethogrwydd ei feddyliaeth farddonol yn dyrchafu ei weithiau bob amser yn mhell uwchlaw cyffredinedd, ac yn creu arnynt nodwedd o uchel ragoriaeth na pherthyn i eiddo ereill. Cynwysa y llyfryn hwn flaenffrwyth ei awen, ac os yw y gwanwyn mor doreithlog, pa beth fydd y cyflawn hâf? Yr ydym yn mawr obeithlo y bydd i’n darllenwyr lluosog galonogi y bardd ieuanc trwy brynu ei lyfr. Yr ydym yn cwbl gredu na oddefa y cyhoedd i ofn y bardd gael ei wireddu:—

“Ewch, gerddi, bellach, ewch, ac os mai caled, Fel eiddo’ch mydrwr, fydd eich taith a’ch tynged, Rhaid peidio grwgnach, canys dyna arfer Y ddaear hon, yw sathru’r gwan bob amser.

“Odlau Priodasol.” In Y Gwladgarwr (Aberdare) of Saturday, February 21, 1874, page 7.

I’r Parch. T. C. Phillips, Mountain Ash, â Miss Pugh, Aberdar.

Fe safai Phillips wrtho’i hun, Heb fun idd ei gysuro Ar oerllyd lan llyncyddiaeth erch, Lle nad all merch breswylio! A thaflai ’i olwg dros y don, A’i galon aeth i guro, Can’s gwelai fun yn codi’i llaw Am iddaw groesi yno! Nid hir yr oedodd Phillip fâd, Ond aeth i’r bâd mewn eiliad, A brysiodd rwyfo tua’r lan At wrthddrych can ei gariad; Ac ar y lan hyfrydol, iach, Mae bellach mewn dedwyddyd, Yn teimlo fel y cerub bron Dan wen ei lon anwylyd! O! na ddoed awel lem ei miw, Nac Hydref blin ac atgas, I wywo’r blodau sydd mor gu Yn harddu eu priodas; Ond bydded fod yr undeb hwn Yr, gwlwm prydferth, dwyfol, A wnaed gan Dduw a’i law ei hun Rhwng mab a bun rhinweddol.
        Celyddon.

“Ymadawiad Celyddon.” In Y Gwladgarwr (Aberdare) of Saturday, April 11, 1874, page 3.

Mr. Gol,—Yr oedd yn flln iawn genyf weled yn y Gwladgarwr dlweddaf fod y cyfaill didwyll Celyddon yn bwriadu gadael ei hen wlad gan wynobu i’r Gorllewln pell. Rhywfodd neu gllydd, yr ydym yn colli ein dynion goreu yn barhaus—y mae rhyw achos i hyn, ond achos yw ag sydd yn guddiedig hyd yn hyn. Gan fod y cyfaill Celyddon wedi penderfynu myned, yr oeddwn yn teimlo yn falch iawn o weled fod staff y Gwladgarwr wedi bod a’u llygaid yn agored, a gweled y priodoldeb o gychwyn tysteb iddo cyn el fod yn ein gadael. Nid oes achos dweyd wrth y rhai sydd yn adnabod Celyddon am ei deilyngdod. Y mae yn sicr o fod yn wir deilwng o gael rhyw gydnabyddiaeth gan feirdd a llenorion ei ardal a’i gymydogaeth. A chwithau, fechgyn y cymydogaethau pell, diau na fyddwch yn ol o daflu ychydig i’n helpu i wneuthur tysteb anrhydeddus iddo. Y mae Celyddon yn fachgen ag sydd wedi gweithio ei hunan i fyny trwy lawer o anhawsderau i sylw ac enwogrwydd yn mysg beirdd a llenorion ei wlad. Nid rhoi tysteb i un a digon o bres yn ei boced y byddwn wrth wneud tysteb i Gelyddon.

Yn awr, frodyr, gadewch i ni gael edmygu talent a pharchu good pluck. Os nad ellwch ddyfod i’r pwyllgor sydd i’w gynal yn y Temperance Hall, nos Sadwrn, Ebrill 18, bydded i chwi wneud fel y mae y brawd Mills yn ofyn, sef anfon nodyn i’ch cynrychioli. Hyn yn fyr oddiwrth
Trecynon.

Tiberog.


“Cyfarfod Ymadawol Celyddon.” In Y Gwladgarwr (Aberdare) of Saturday, July 11, 1874, page 6.

Nos Wener, Mehefin 19, cynaliwyd cyfarfod ymadawol y cyfaill ieuanc Celyddon, ar ei ymadawiad a’r wlad hon i’r America, yn Ysgoldy Bethania, Aberdar. Cymerwyd y gadair gan Mr. Lewis Griffiths, ironmonger, yr hwn a roddodd araeth agoriadol ddifrifol a galluog, ac yr oedd yn llawn o wersi gwerthfawr i’r dyn ieuanc—yr oedd yn profi fod yr areithiwr o feddwl diwylliedig. Siaradodd yn uchel am Gelyddon fel bachgen ieuanc gobeithiol. Cafwyd dwy gân gan y canwr medrus D. Howell (Gwyn Alaw,) Aberaman, a chanodd y brodyr Thomas Morgan, William Davies, Aberdar, a William Lacy, Cwmdar. Cafwyd dau ddernyn rhagorol o farddoniaeth yno—un gan Daronwy, Aberaman, a’r llall gan Dyfedfab. Yr areithwyr oeddynt Mri. T. Price, (Idris Nedd,) Etna Jones, Brythonfryn, a’r Parch. Mr. James, gweinidog Bethania. Tua chanol y cyfarfod, cyflwynodd Mr. Rhys Etna Jones bwrs, yn cynwys £10 15s., i Celyddon fel arwydd o barch ac edmygedd ei gyfeillion tuag ato ar ei ymadawiad o’i wlad enedigol; ac heblaw hyny, cyflwynodd Mr. James, y gweinidog, lyfr gwerthfawr iddo fel rhan o’r dysteb, am ba rai y diolchodd Celyddon yn wresog mewn ychydig o eiriau pwrpasol. Darllenwyd yr anerchiad gan Brythonfryn, gan yr hwn hefyd y cafodd ei wneuthur. Ond y mae yn dda genyf ddweyd fod y dysteb wedi cyrhaedd i £12 cyn i Celyddon ymadael. Gadawodd Aberdar dydd Mawrth ar ol y cyfarfod. Cafwyd cyfarfod dyddorol heb ddim lol a gwag siarad, fel sydd i’w cael mewn cyfarfodydd o’r un natur. Yr oedd pawb yn rhoddi eu dymuniadau goreu i Celyddon ar ei ymadawiad. Wedi i Etna Jones gynyg diolchgarwch i’r cadeirydd a Brythonfryn eilio, aeth pawb tuag adref wedi cael eu llwyr foddhau.—Un oedd yno.


“Nodiadau Cymreig.” In Y Gwladgarwr (Aberdare) of Friday, December 8, 1876, page 2.

[...] Ffrwyth siomedigaeth o fod wedi colli mewn eisteddfod ydoedd nodiadau Celyddon ar y bryddest wobrwyedig yn Hyde Park. Mae Celyddon yn dyfod yn enwog fel grwgnachwr yn mhlith llenorion yr Amerig, a thebyg na fydd yn hir cyn cael ei raddio â’r teitl o Archrwgnachwr Eisteddfodol. Mae safle awdwr y bryddest gadeiriol ar y “Mayflower” yn llawer uwch fel pregethwr a bardd nag ydyw ei ymosodydd; a sicr ydyw ei fodyn ormod o foneddwr i wneyd y sylw lleiaf o’r truth ymosodol. Os dim, y beirniad, John Gordon Jones, sydd i’w feio, os oedd bai yn bod, ac nid derbynydd y wobr; a chadair eisteddfodol y Gymdeithas Gymreigyddol a wneir i fyny o lenorion goleuedig Athen y Cymry Americanaidd.


“Llwyddiant Cymro.” In Y Gwladgarwr (Aberdare) of Friday, June 21, 1878, page 6.

Llwyddiant Cymro.—Da genym ddeall fod y bardd a’r pregethwr Mr. D. C. Phillips (Celyddon), gynt o Aberdâr, wedi graddio yn llwyddianus yn yr Union Theo. Seminary, New York, ar y 6fed cyfisol. Hefyd, y mae wedi huno mewn glân briodas â chwaer i’r diweddar Barch. Phillip L. Davies, New York.


“Genedigaeth.” In Y Gwladgarwr (Aberdare) of Friday, September 23, 1881, page 5.

Phillips.—Awst 5ed, yn Johnstown, Pennsylvania, America, priod y Parch. D. Celyddon Phillips (diweddar o Aberaman, Aberdar), ar fab. Gelwir y gwr ieuanc hwn yn David Wendell Phillips.


“Celyddon Fel Duwinydd.” In Y Gwladgarwr (Aberdare) of Friday, January 20, 1882, page 3.

Yr uchod oedd penawd erthygl yn y Wasg, yn ddiweddar, ar y Parch. D. C. Phillips, Johnstown, Pennsylvania, yr hwn sydd yn prysnr enill safle uchel iddo ei hun yn ei wlad fabwysiedig. Dywed y Pittsburgh Times:—“Rev. D. C. Phillips, of the Welsh Calvinists, is fast gaining a reputation as the brainiest divine in Johnstown.” Dyma gymeradwyaeth nid bychan, pan ystyrir fod yn y dref luaws o weinidogion o bob enwad, ac mai gwrthddrych y sylw yw yr ieuengaf ohonynt. Hefyd, cafodd ei wahodd i anerch y “Cambrian Scientific Institute”—sefydliad o brif ddysgedigion y dref—ar “Athroniaeth y meddwl.” Cafodd ei anerchiad gymeradwyaeth uchel gan bawb, ac ymddengys efe fel yn berffaith feistr ar ei destyn. Y mae y gwr parchus, hefyd, yn llwyddianus iawn fel gweinidog a bugail; y mae ei gapel wedi ei orlenwi, a rhif yr eglwys wedi ei ddyblu. Yn ddiau, bydd y newydd hwn yn wir gymeradwy gan ei gyfeillion lluosog yn yr Hen Wlad, yn enwedig yn nghymydogaeth Aberdar, yn mha le y treuliodd gymaint o’i oes. Aed yn mlaen, mae digon eto o le.


“Celyddon a’i Gadelriau.” In Y Drych (Utica) of Thursday, January 29, 1885, page 3.

Johnstown, Pa., Ion. 16.—Nid oes achos i Celyddon betruso na fydd ganddo gadair urddasol i eistedd ynddi am ei oes, ac iddo gael oes Twm Ifan Prys; ac os dal ati am dipyn, bydd ganddo gadair i’w rhoddi yn ei ewyllys i bob un o’i blant ar ei ol. Er nad ydyw ond ieuanc, heb gyraedd llinell y cyhydedd, y mae wedi enill tair cadair Eisteddfodol yn barod—“Yr Atlantic” yn Utica, Calan 1874; “Y Jeanette” yn Plymouth, Nadolig 1884; a “Y Myfyr” yn Utica, Calan 1885; a chlywais rai cywirgraff eu barn yn dweyd er’s saith neu wyth mlynedd yn ol, mai Celyddon a ddylasai fod yn eistedd yn nghadair “Y M—r,” ond bydded hyny fel y bo.

Tua dechreu y ddwyfed ganrif ar bymtheg, breuddwydiodd y beirdd y dylai awdl fod a’r bedwar mesur ar hugain D. ab Edmwnd, cyn y byddai yn deilwng o’r enw awdl; a pharhaodd y beirdd i wneyd felly hyd Eisteddfod fawr Caerfyrddin yn 1819, pan ryddhawyd hwynt trwy awdurdod Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, oddiwrth y dygn gaethiwed; gan gyhoeddi rhyddid iddynt ddewis y mesurau a ewyllysiant o’r ddau ddosbarth, i gyfansoddi eu hawdlau. Ymddengys i mi mai perthyn i’r hen ysgol y mae Celyddon. Cyfansoddodd dair awdl y flwyddyn ddiweddaf—un ar Hiraethog i Eisteddfod Lerpwl, yn wyth gant o linellau, ac ar y pedwar mesur ar hugain, a chlywais ei bed yn awdl gampus. Cyfansoddodd ei awdl gadeiriol ar “Y Jeanette” i Eisteddfod Plymouth, tri chan’ llinell, ac ar y pedwar mesur ar hugain. Hefyd, cyfansoddodd ei awdl gadeiriol ar “Y Myfyr” i Eisteddfod Utica, pum’ can’ llinell, ac ar y pedwar mesur ar hugain. Perthyn i’r un ysgol oedd Y Myfyr, ac yw y prif-fardd Dyfed; er fod rhai o egin beirdd y wlad hon yn haeru mai perthyn i ryw ysgol newydd na wyr neb ddim am dani ond eu hunain y mae Dyfed; ond llwch trwyn Nansi Peri yw haeru peth felly. Wel, llwyddiant i Celyddon, a phob bardd ieuanc arall i ragori:

Gwiw lwyddiant rydd i Celyddon,—doraeth O gadelriau tlysion, O bur rial wobrwyon—i ddwyn llog, Yn dal am ei enwog awdlau mwynion. Ei “Jeannette, you bet* a fydd byw—o’r ia Daeth yn rhydd—mae’n orfyw O awen goeth; dinag yw, A’i sadwaith campus ydyw. Ei “Y Myfyr,” edlym hefyd—ydyw O gadarn feddylfryd; Rhwyfa awel gwlr fywyd. Drwy y gerdd yn ffladr i gyd. Ei “Hiraethog,” toreithus—yw heno O awenydd medrus; Goleu eiriau galarus—sy’n el gwraidd, A’i hacen fwynaidd sy’n lleddf cwynfanus.

—B.B.D.

*Cyswynair y Ianciod Cymreig.


“Hyn a’r Llall: Nodion Cyfundebol.” In Y Cyfaill, sef Cylchgrawn Misol y Methodistiaid Calfinaidd yn America (Utica, N.Y.) of February 1890, page 87.

Mae y Parch. D. C. Phillips (Celyddon) wedi rhentu ty Mr. John Courier Morris, y dodrefn a’r cyfan, yn 172 Hyde Park Ave., Scranton, Pa. Cofier mai dyna fydd ei gyfeiriad am y misoedd dyfodol.


Dedication and Introduction from Gweddillion y Gorlifiad; sef Gwithiau Barddonol (“Remains of the Flood; being Poetic Works”) by D. C. Phillips (Celyddon), 1891. Pages v–vi. See also “Y Jeannette,” from this volume; and Celyddon’s account of the Johnstown flood.

Y CYFLWYNIAD [Dedication].

Pw briod, Mary,
a’i blant,
Martha, Arthur, David, a Roswell,
y cyflwynie
y “Gweithiau Barddonol” hyn,
fel adgof o’u
gwaredigaeth ragluniethol
hwy a’r awdwr o ddinystr Johnstown, Mai 31, 1889.


RHAGYMADRODD [Introduction].

Hynaws Ddarllenydd:

Yn 1873, blwyddyn cyn ymadawiad yr awdwr a Chymru, cyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth dan yr enw “Cerddi Celyddon,” a chafodd dderbyniad croesawgar iawn; ac y mae ar werth yno yn awr. Mae adolygiad y diweddar Barch. William Thomas (Islwyn) arni fel y canlyn:

“Er nad yw Celyddon ond pur ieuanc, y mae efe wedi profi ei hun yn fardd o uchel awen, ac wedi cyfansoddi “Cerddi” a fyddant yn fyw tra bo’r hen Omeraeg. Feallai nad oes un o’n beirdd ieuainc yn Nghymru yn meddu ar gymaint o athrylith gwir awenyddol ag efe. Y mae cyfoethogrwydd ei feddyliaeth farddonol yn dyrchafu ei weithiau bob amser yn mhell uwchlaw cyffredinedd, ac yn creu arnynt nodwedd o uchel ragoriaeth na pherthyn i eiddo eraill. Cynwysa y llyfryn hwn flaenffrwyth ei awen, ac os yw y gwanwyn mor doreithiog, pa beth fydd y cyflawn haf?”

Er pan diriodd yr awdwr yn y wlad hon yn haf 1874, cynwysa y gyfrol bresenol braidd yr oll o’i gyfansoddiadau barddonol. Ysgrifenwyd hwy o bryd i bryd fel yr oedd ei oriau hwyrol yn caniatau a’i ysbryd mydryddol yn ei gynyrfu. Cyfansoddodd “Yr Atlantic” yn niwedd 1874, a’r “Mayflower” yn nechreuad 1875, tra yn ymweled ag eglwysi yn Nhalaeth Pennsylvania. Ysgrifenodd “Trugaredd” yn niwedd 1876 tra yn fyfyriwr yn adran dduwinyddol Prif Ysgol Dinas New York. Cyfansoddodd y gweddill ar ol ei fynediad yn Hydref 1878 i wasanaethu eglwys y T. C. yn Johnstown, Pa. Mydrodd “Anfarwoldeb” yn 1881, “Yr Eglwys” yn 1882, a’r “Awdlau” o’r flwyddyn 1884 hyd 1888.

Yn ngorlifiad galarus Johnstown, Mai 31, 1889, fel cartrefleoedd miloedd eraill, dinystriwyd ei gartrefle ef a’r cwbl oedd ynddo; ond cafodd efe a’i briod a’i bedwar plentyn waredigaeth ryfeddol o’r dinystr. Fel pob peth arall, ysgubwyd ymaith ei ysgrifeniadau, ond yn mhen deufis deuwyd o hyd i’r cyfansoddiadau hyn, oddieithr tri o’r rhai byraf, yn yr adfeilion, a thrwy ofal a thrafferth mawr, y mae yn alluog i’w cyflwyno i’r cyhoedd fel ”Gweddillion y Gorlifiad,” can belled ag y mae a fyno y gorlifiad a’i ysgrifeniadau ef. Nid gwiw iddo ymofidio am a fu. Yn mhlith ysgrifeniadau eraill, collodd ysgrif-lyfr Saesneg ag y bu ddeng mlynedd yn ei berffeithio a’i ddarparu i’r wasg. Cynwysai ei syniadau ar holl bynciau athrawiaethol crefydd Iesu Grist. Cymdeithas Gweinidogion y dref fu yn symbyliad iddo i’w gyfansoddi. Yn fuan wedi ei fynediad i Johnstown, cafodd yr anrhydedd, mewn cysylltiad a gweinidogion eraill perthynol i’r gwahanol enwadau, o ffurfio Cymdeithas y Gweinidogion, ac ar wahanol adegau yn ngwrs deng mlynedd, darllenodd gynwysiad yr ysgriflyfr i’r aelodau. Mae meddwl yn dylanwadu ar feddwl.

Rhaid dychwelyd at y gyfrol fechan bresenol. Cywirir nifer o wallau argraffyddol ar y tudalenau olaf, a throsglwyddir y cyfansoddiadau hyn yn ostyngedig i’r darllenydd, gan obeithio y byddant yn ffynonell o fudd a mwynhad iddo.

    Yr eiddoch yn ddiffuant,

        D. C. PHILLIPS (Celyddon).

Scranton, Pa., Awst 5, 1891.


A poem in honor of the late William Roberts, D.D. (1809–1887), for ten years pastor of Utica’s Calvinist Methodist church, editor of Y Cyfaill (see below). In Cofiant A Phregethau y Parch. William Roberts, D.D., edited by E. C. Evans (T. J. Griffiths Argraffydd: Utica, N.Y., 1890), pages 158–160.

Barddoniaeth Goffadwriaethol am Dr. Roberts.

Gan y Parch. D. C. Phillips (Celyddon), Scranton, Pa.

Syrthiodd eto yn ei gylchdro,   Athraw gwych yn eglwys Ior; Coeth o feddwl, ieithydd cryno,   A’i hyawdledd fel y mor; Un lafuriodd haner canrif   Ar y maes fel cenad hedd; Awdwr llawer ddestlus ysgrif   Sydd yn huno yn y bedd!
Ac megys duwinydd ac athraw y pwlpud,   Yr adgof o hono a erys yn hir; Oblegid pwy fedrai ymddangos a symud   Yn y cylch hwnw’n fwy hoenus a chlir? Yr oedd pob gosodiad yn tystio yn eglur Ei fod ef yn deall angenion pechadur, A cheisiai ddiwallu a lloni ei natur   A bara y bywyd ac olew y gwir. Nid ysgafn ehedeg dros y llyfn arwyneb,   Ond treiddio i’r dyfnder a wnelai o hyd; Dadblygai wirionedd ei bwnc mewn dysgleirdeb,   Ei destyn yn unig a lyncai ei fryd; Ei destyn fyfyriai, ei destyn feistrolai, Ei destyn yn hyawdl a gwresog bregethai; Yn mhrif-bwnc ei destyn mor llwyr yr ymgollai,   A gwelem ei destyn ger bron megys byd. Megys teml o fynor pob pregeth o’i eiddo,   Pob brawddeg a syniad yn llygad ei lle; Os cawsom hanesyn, yr ydoedd yn taro—   Fel morthwyl deheuig, y meddwl i dre’; Pob peth yn briodol, pob pwyslais, pob osgo, Ei gorff fel ei bregeth oedd gadarn a chryno, Pob peth mor naturiol a natur yn gweithio,   Traddodi’n effeithiol ei bregeth oedd ef. Mae’r adgof am dano a’i hwyliau arbenig, Hyd heddyw yn effro yn Nghymru fynyddig; Y Deau a’r Gogledd deimlasant ei allu, Ei beraidd hyawdledd a’i rymus bregethu. Yn benaf Amerig hirgofia am dano— Ei hwyliau mawreddig a’i egni i weithio; Mor weddus ei olwg, hoff oedd yr olygfa Pan godai i’r amlwg ar risiau’r areithfa; Darllenai ei destyn yn bwyllog, ystyriol, Gan araf ymesgyn i’w hwyl areithyddol; Llefarai yn hyglyw, pob sill yn berseiniol, Pob brawddeg yn orfyw gan yni meddyliol; Ac fel y cynesai, cyfodai ei oslef, A buan pob brawddeg ymdorai’n daranlef. Ar lawr yr areithfa symudai’n gynyrfus, Gan floeddio “Gogoniant” fel udgorn soniarus; Edrychai o gwmpas, ai’n ddyfnach i’w destyn, Pob brawddeg o’i eiddo i’r galon yn disgyn; Ei deimlad toddedig i’w lais oedd yn ffrydio, A thros ei heirdd ruddiau y deigryn wnai dreiglo; Cryfhai ei hyawdledd a thaniai ei enaid, A chodai o’r dyrfa y dwysaf ochenaid; Rhai’n ofni, rhai’n wylo, cyfodai y moliant, Ac eilwaith y bloeddiai “Gogoniant, Gogoniant!” Arosai ychydig, addolai y dyrfa, Ac yna ai’n ddyfnach i olud Calfaria; Pob brawddeg fel taran, pob syniad fel mellten, A theimlair gwiandawyr yn brudd ac yn llawen; Uwch, uwch yr esgynai a’r dorf yn ei gwmni, Ymgollai’r cynulliad mewn dwyfol oleuni; Ac megys diweddglo yn nghanol y moliant, Dywedai’n bwysleisiol “Gogoniant, Gogoniant!”
Anhawdd ydyw tynu ardeb   Cywir, byw o genad hedd, Pan mae’r llais yn fud, a’r wyneb   O dan leni oer y bedd! Methodistiaeth hoff Amerig,   Sych dy ddagrau, gwel dy waith, Onid addas i’r lluddedig   Hun y bedd ar ben y daith? Cwympodd megys afal addfed,   Gwrid y nef oedd yn ei wedd; Ymdawelwn, er mor galed   Rhoi ffarwel wrth ddor y bedd!

“Two Thoughts.” From Gweddillion y Gorlifiad; sef Gwithiau Barddonol (“Remains of the Flood; being Poetic Works”) by D. C. Phillips (Celyddon), 1891, pages 205–206. This is the only English-language poem in the book.

Oh! what a world is this,   A world of pain and sorrow, A world without a bliss,   Without a bright to-morrow; A world to bleed the heart,   A world of desolation; A world to keep apart   Each soul from consolation. But wait, my soul, look far,   True is the blessed story, There is a land where every star   Beams forth celestial glory; This narrow sphere of life   Is joined to boundless measure, Where all thy sorrow, woe, and strife   Shall swell thy unstained pleasure.

“Rev. Phillips’ Funeral Will Be Held Tuesday.” In the Scranton Times of Monday, December 6, 1915.

Prominent retired Welsh divine dies Saturday following stroke of apoplexy. Poet, philosopher and lecturer.

Five hours after he was attacked by a stroke of apoplexy, Rev. David Celyddon Phillips, retired minister, and one of the best known residents of West Scranton, died Saturday afternoon at ten minutes past 2 o’clock at his home, 173 South Hyde Park avenue. He was sixty-seven years old and aside from his former activities in the pulpit had won distinction as a poet, philosopher and lecturer. His last charge was as pastor of the Welsh Presbyterian church, on Wayne avenue, from which he retired in 1900, owing to a nervous breakdown.

Rev. Mr. Phillips is survived by his wife, one daughter, Martha E. Phillips, a teacher in No. 14 school, and three sons, Rev. Arthur Phillips, of Beverly, N. J.; David W. Phillips, a teacher in the Technical High school, and Roswell Phillips, former newspaperman. They all were at the bedside when the end came. The funeral will be held tomorrow afternoon at 2:30 o’clock, with services at the residence. Rev. Ebenezer Flack, pastor of the Washburn Street Presbyterian church, and Rev. T. Teiffon Richards, of the First Welsh Baptist church, will officiate.

End Came Suddenly.

Although he had never fully recovered from the effects of the nervous collapse of fifteen years ago, Rev. Mr. Phillips seemd to be in excellent health up to the moment the stroke seized him. A neighbor, Blake Cuddenbach, had asked him to fix a clock. Jesting, Mr. Phillips fixed the instrument, and as he handed it back to the owner, he put his hand to his head and complained of a pain. He walked into the house, still holding his head, and told his wife and son, Roswell, that he was in pain. Dr. G. B. Beach was summoned and later Dr. L. H. Raymond was called in. Neither could do anything and a consultation with Dr. J. D. Wilson was in progress in the afternoon when the retired clergyman breathed his last.

Mr. Phillips was a whole-souled, lovable character, who enjoyed the full respect of all who knew him. Though he had suffered troubles that seldom fall to the lot of the ordinary man, his sunny, philosophical nature sustained him in his trials. He and his family survived the Johnstown flood as if by a miracle and he lost everything in that catastrophe. He came to Scranton in 1894, accepted a call from the congregation of the Wayne Avenue Welsh Presbyterian church and remained as pastor of that church for the following six years.

Was Born in Wales.

Born in Narbeth, near Aberdare, Pembrokeshire, Wales, May 28, 1848, the son of a farmer and though called upon early to become the main support of the family he educated himself by dent of hard work and in time became a local preacher in his home town. In 1874 he came to America, settling in New York, where he succeeded by force of energy and grit to work himself through Union Theological seminary and became an ordained minister of the gospel. During the term in the seminary he married Mary Evans, a half-sister of Rev. Philip L. Davis, a noted Welsh divine, and who filled the pulpit of the First Welsh Baptist church, here, years ago.

Following his ordination the young minister filled charges in and around New York and eventually accepted a charge in Rutland, Vt. He remained there only a short time when he was called to Johnstown. It was in Johnstown that the great disaster of his life temporarily overwhelmed him. The Phillips home was on Main street, that city, when the great flood of May 31, 1889, swept down upon the town. The home was in the path of the flood. He and his wife and their four children were in the house when the waters rushed upon them. They were unable to escape. Taking refuge in an upper room of the dwelling they were caught there as the water soon crept to them. Taking his wife and children, Mr. Phillips as the last hope lifted them to a long, built-in shelf near the ceiling and with the water to his neck he remained supporting the shelf with his hands for twenty-four hours. At last one of the children found an old hatchet on the shelf. With this Mr. Phillips managed to chop a hole through the side of the building with one hand, while he supported the shelf with the other. He backed the opening after hours of labor. Through this opening they attracted the attention of persons in the upper floors of a hotel nearby. Ropes were found by the hotel occupants and when the opening in the side of the house was made large enough the wife and children and the father were finally hauled from the flooded room to safety in the hotel. The flood not only destroyed the Phillips home, but wiped out the prosperous congregation of which he had been the pastor.

Lectured On Flood.

Undismayed by the disaster Mr. Phillips set to work to rehabilitate his fortunes and find means of supporting his family. He was left penniless by the flood. He took to the lecturing platform and for several years lectured in this country and in Wales on the Johnstown flood. He succeeded as a lecturer and in 1892 he decided to establish himself in a permanent occupation and two years later, in 1894, he came to Scranton.

Apart from his ministerial duties he gave much time to writing of verse and hymns. He was a keen critic of theological subjects and leaned toward philosophical study. He published several volumes of verse and ranked high as a poet. One of his masterpieces, “On Calvary Dawned,” has been set to hymnal music. For the past twenty-five years he had worked on the story of the life of Christ in verse, and up to a few days ago he still continued to polish and improve it, which he hoped would be his master work. The volume will be published by his sons as a memorial. Mr. Phillips was a life member of the American Bible Society.


“Y Diweddar Barch. D. C. Phillips (Celyddon).” In Y Drych (Utica) of Thursday, December 23, 1915, page 2.

Gan Cadle.

Bu y bardd-bregethwr Celyddon farw yn sydyn iawn yn ei gartref ar Hyde Park Avenue, Scranton, brydnawn dydd Sadwrn y pumed o Ragfyr. Ymddangosai ei fod yn ei iechyd arferol ddydd ei farwolaeth, ond tarawyd ef gan y parlys mud a bu farw bron heb yn wybod i’r meddygon a’r teulu.

Ganwyd ef mewn amaethdy o’r enw Pant y Gorphwys, ger Narberth, Penfro, D. C., yn y flwyddyn 1845. Nid oes ardal brydferthach yn y byd na’r ardal y ganwyd Celyddon ynddi—hen ardal bell y Mabinogion gynt! Mynychodd yr ysgol ddyddiol nes yr oedd tua deuddeg oed. Yn y flwyddyn 1860 gwerthodd ei dad y tyddyn, a symudasant fel teulu i Aberdar. Yn mhen amser byr wedi iddynt ymsefydlu yn Morganwg, bu farw’r tad yn nghyd a thri o’i fechgyn hynaf, a thrwy yr anffawd ddifrifol hon daeth gofal y teulu ar wrthrych ein hysgrif, er nad oedd ond llanc tra ifanc, a gwnaeth ei ran yn rhagorol dros y teulu, er ieuenged oedd. Dysgodd gadw llyfrau, a bu wrth y gorchwyl hwnw am beth amser, ac yn ddiweddarach bu yn athraw mewn ysgol ddyddiol. Yr oedd wedi ei eni yn fyfyriwr, ac nid oedd dim a’i lluddiasai yn ei ymchwil am wybodaeth. Dysgodd y Roeg a’r Lladin yn bur drwyadl drwy ei ymdrechion ei hun, heb gynorthwy neb ond ei benderfyniad a’i lyfrau. Dechreuodd lenydda yn lled foreu a daeth i sylw fel bardd ieuanc o alluoedd uwchraddol. Cyhoeddodd gyfrol o’i weithiau barddonol pan nad oedd namyn glaslanc—un o blant yr anfanteision, a chafodd ei lyfr dderbyniad cynes gan y genedl. Yn ei adolygiad ar y gyfrol a nodwyd, dywedai yr anfarwol Islwyn fel y canlyn:—“Er nad yw Celyddon ond pur ieuanc, y mae efe wedi profi ei hun yn fardd o uchel awen, ac wedi cyfansoddi cerddi a fyddant yn fyw tra bo’r hen Omeraeg. Feallai nad oes un o’n beirdd ieuanc yn Nghymru yn meddu ar gymaint o athrylith gwir awenyddol ag efe. Y mae cyfoethogrwydd ei feddyliaeth farddonol yn dyrchafu ei weithiau bob amser yn mhell uwchlaw cyffredinedd, ac yn creu arnynt nodwedd o uchel ragoriaeth na pherthyn i eiddo eraill. Cynwysa y llyfryn hwn flaenfrwyth ei awen, ac os yw y gwanwyn mor doreithog, pa beth fydd y cyflawn haf?” Dyna farn Islwyn am Celyddon pan nad oedd ond glaslanc, a phwy addasach i farnu barddoniaeth na phrif fardd ein cenedl?

Dechreuodd arfer ei ddawn bregethu gyda’r M. C. pan oedd tuag ugain oed. Ymddiswyddodd o’i waith fel athraw yn yr ysgol ddyddiol, er mwyn cymeryd cwrs o addysg dduwinyddol yn y Cynon Seminary, bu yno am ryw ddwy flynedd, a gwnaeth waith rhagorol yno, yn ei barotoi ei hun ar gyfer y weinidogaeth. Cynorthwyai ei hun yn yr ysgol uchod drwy weithio ar y “Gwladgarwr” a phregethu ar hyd a lled y Sir. Yn y flwyddyn 1874 ymfudodd i’r wlad hon, ac aeth ar ei union i’r Union Theological Seminary, New York, a graddiodd o’r sefydliad uchod yn y flwyddyn 1876. Wedi gorphen ei gwrs colegawl, pregethodd am beth amser yn Eglwys Bresbyteraidd Lake View, Patterson, N. Y. Dechreuodd ei waith yn mhlith y Cymry, yn Rutland, Vt., ond nid arosodd yno’n hir, drwy iddo gael galwad oddiwrth Eglwys y M. C. yn Johnstown, Pa. Llafuriodd am ryw ddeng mlynedd yn Johnstown, ac yr oedd yno adeg y diluw ofnadwy hwnw, a bu agos iddo ef a’i deulu golli eu bywydau yn ei genllif gwyllt; a chredaf i effaith y trychineb torcalonus ei ddylyn hyd ei fedd.

Cyfarfyddodd Celyddon a chydmares ei fywyd yn y wlad hon, sef Miss Mary Evans, chwaer y diweddar athrylithgar Phillip L. Davies, y Cymro hyawdlaf a esgynodd i bwlpud Cymreig yn y wlad hon, fel un a godwyd y tu yma i’r Werydd, a dyna farn pawb ar a’i clywsant yn siarad ar lwyfan.

Wedi diluw Johnstown bugeiliodd Mr. Phillips Eglwys y M. C. yn Providence, Pa., am beth amser, a darlithiodd hefyd ar ddiluw Johnstown yn y wlad hon ac yn Nghymru. Yr oedd wedi rhoddi gofal eglwysig i fyny er’s blynyddoedd lawer. Er fod Celyddon yn dra adnabyddus fel pregethwr galluog, hwyrach mai fel bardd yr oedd efe enwocaf, Cyhoeddodd gyfrol o’i farddoniaeth yn y wlad hon. Barna rhai o’n llenorion goreu fod barddoniaeth y gyfrol a gyhoeddodd yn Nghymru yn llawn cystal, os nad gwell na’i ail gyfrol; dengys hyn fod ei awen wedi dadblygu yn eithriadol o gynar. Credai y cyfaill Celyddon mai yn y mesur caeth oedd efe gryfaf; ond anhawdd i neb sydd yn gyfarwydd a’i weithiau caeth a rhydd, fyddai cydolygu ag ef. Dipyn yn llafurfawr ac afrosgo yw ei symudiadau yn hualau’r gynganedd, er ei fod yn ei deall yn drwyadl. Meddai ar feddwl cryf gafaelgar a hwnw’n ddiwylliedig. Medrai’r Saesneg fel y Gymraeg. Darllenodd y Parch. Wyn Rees ddarn neu ddau yn Seisneg o waith y bardd yn yr angladd. Gweinyddwyd yn ei arwyl gan y Parchn. Dr. Flack a Teifion Richards; yr olaf yn siarad yn y Gymraeg.

Wedi oes galed ac ystormus cafodd ein bardd hydref oes tra dymunol yn nghwmni ei anwyl deulu. Y mae ei fab Arthur, yn weinidog llwyddianus gyda’r Presbyteraidd Seisnig yn New Jersey; Dafydd yn athraw medrus yn y Scranton High School: a Roswell mewn masnach yswiriol; a’i unig ferch, Martha yn athrawes dra chymeradwy yn ein Hysgolion Cyhoeddus. Llafuriodd Celyddon a’i anwyl briod yn ddygn i roddi addysg dda i’w plant, ac y mae eu tri mab yn raddedigion o Brif Ysgol Lafayette, ac ni fu ymdrech galed eu rhieni i’w haddysgu yn ofer. Y maent oll, frodyr a chwaer yn anrhydedd i’w teulu a’u cenedl. Heddwch i lwch y cyfaill Celyddon, a choffa da fo byth am enw’r bardd.