This is David Celyddon Phillips’ ode Y Jeannette, transcribed by Arthur O’Dwyer (2025).
Poet David C. Phillips, whose bardic name was Celyddon, was born in Aberdare, Wales, in 1848; moved to Johnstown, Pennsylvania, circa 1874 (see below); and died in or near Utica, New York, 1915.
See also newspaper clippings about Celyddon.
“Y Jeannette,” from Gweddillion y Gorlifiad; sef Gwithiau Barddonol, by D. C. Phillips (Celyddon), 1891. Pages 49–60.
Buddugol ar destyn y Gadair yn Eisteddfod Plymouth, Pa., Rhagfyr 25, 1884.
Anturia ar hynt erwin—nef-awen, Nwyf eang cerdd ddibrin; A ffrydied anghyffredin—farddol wawl, Hyd arw oesawifyd y rhew iesin! Y meddwl ymawyddus—archwilia’r Uchelion clodforus; Bro y daran a’i bri dyrus,—a ch’oedd Aruthr gylchoedd y moroedd ymwrus. Ond aig hyglod enaid y Gogledd—oer, Heria ei chwilfrydedd; Er ei firain orfawredd—gwycha’, Ni rwyfa heibio y Pegwn rhyfedd! O! y man annymunol—man angeu Mewn ingoedd dirdynol! Man rhysedd mewn rhew oesol—yw’r pell bau, A’i fyd o donau i fodau dynol! Bu dewrder heb awdurdod—yn y fan, Dan faich trwm mewn malldod; Ni fu nawdd o’i fewn i fod, Ond aden wen y Duwdod! Er pob pwn y Pegwn pell Byth a saif yn beth o swyn, Megys rhyw ddigyfryw gell Ar dwr y mor i’r dewr mwyn. Y llongau a ollyngwyd—i’w geisio’n Grwn a’i chwilio’n ysgyrion chwalwyd! Ac allan, er a gollwyd—Jeannette aeth, Hon, er mawr alaeth, i’r mor a hwyliwyd! Ond cyn mudo cawn am adeg Wylo’n unol ar lanw y waneg! Pob calon dirion deg—brudd ymoedai, Mwyn achwynai am drem yn ’chwaneg! Cul enyd i’w calonau—yn awr fu, Ar fin ein gororau; Bu’r gwron pybyr gorau—mewn pryder, A’i fêl don dyner oedd fal dan donau! Priod wen y cadben call, Em dduwies, Emma ddiwall, Ar y bwrdd yn awr y bu, Ar y dwr yn pryderu! Pwyl ei thro, gwelw ei threm, Oedd y fwyn annedwydd fam; Pell ferw y llanw llwm Chwalai’n drist ei chalon drom! Ei phlant bychain, mirain, mad, Yn siriol fynent siarad, Fr fod y cwmwl dwl, du, Yn cwnu mewn amcaniad Anfoddus, i’r fun feddai Ar bur fron yn chwyddo’n chwai! O’i mynwes y dymunai—lwyddiant llon Y gwron a garai! Mor unol yr ymranodd—a Delong, Mewn dolur dychwelodd; Hyf arwr yntau foriodd I oer fyd yn ddewr o’i fodd. O San Francisco mwyn hwylio wnelynt, Berw’r eigion yn bur hoew rwygynt, Yn chwai rywiog cerddorion chwareuynt, O dyrau anian megnyl darenynt, I’w hwylio ar eu helynt—ceisient wên Y mor addien, a llwyddiant mawr iddynt! O gyffiniau pell ororau Y Talaethau heirdd, tylwythog, Morio’n ddiau wnaent y tonau, Heibio’r glanau’n bur galonog. Mis Mehefin a’i hoen iesin A’u cynesai; Jeannette weithion ar wiw eigion Ymfawrygai. Castell’cystal Ar ddwr i ddal Oedd a nofiai ohwydd neifion,—a’i dwylaw Oeddent deilwng ddewrion; Fel o ganol hafol geinion Eu gwlad rydd a’i gelltydd gwylltion, A chylch boddus, dawnus dynion, A’u hofifeiddlwys geraint ffyddlon; Cyrchu wnai y llu llon—i’r wlad oerddu, Er gwgu’r drwg eigion. Heb lesgedd heibio Alaska—ai’n buraidd Yn barod i’w gyrfa; Mawr lwyth hon a’i dynion da—o’ent addas I oror oerias y rhew a’r eira! Wrth gychwyn, y deg waneg wenai, Ei gwir ryddid i’r llong fyg roddai; Ond mor fyr y difyr hynt dyfai, Gwên dda’r eigion ymgynddeiriogai! Ei fydoedd ymofidiai—gwynt uchelfloedd Dros y moroedd dyrus ymyrai! O don i don ymdynai, Byw iawn drwy Lawrence Bay äi; Ac anian oedd yn gwenu Ar y cain ymchwilwyr cu! Goleuni teg y glenydd Lonai rawd pob calon rydd; A’r mawr for yn gefnfor gwyn Yn wastad hwnt wnai estyn; A’i donau blwng o dan bla, A’i yrfa yn ddiderfyn! I’r lan oer Iwys, O dan od dwys, O’u man anmwys mewn boen mad; Elai’n llon y doethiou dethawl Ar wych hylaw ymgyrch chwiliawl: Anfonid yn fynych, Ar swydd i’r tir sych, Rai dinych wyr doniawl. Ar aig hyglir oer y Gogledd, Nofio bellach wnai’n hyf bwyllwedd; Tri deg tri mewn dig unigedd Ar y myr gorchwerw’u mawredd. Dyrus tynent dros y tonau Hwnt o lanau’u hynt olwynog; ’Nawr ni welent eirian hwyliau Ar y tonau hurta’, enwog. Archwilient arucheledd—yr eigion Rhwygawl mewn chwilfrydedd, Am hollol dreiddlym allwedd,—er pob cur, Ar hyd aig eglur oerfryd y Gogledd. Am ryw ysbaid y mor mawr agorai, A digon nwyfus y llong deg nofiai; Ond O! mor ddiwyd y mor a ddeuai, A’r iâ her-glodus ar ei war gludai! Cywir iawn y canai—y llong nerthawl Yn ei rew unawl, ac ymdaranai! Er gwasgiad y mor gwisgi,—er cadw Rhew cydiol am dani, Daliai y llong hudol y lli’,—er bod Diail ddyrnod dialedd arni! O! y llong ni ollyngir—o afael Nwyfus rhew nertholglir; Mynyddau’n olau welir,—terfysglyd, Am ryw enyd ar wyneb mor unir! Unigrwydd creulawn hagra’—y moroedd Mawrion deimlent yma; Tywydd a’i todd a’i bla Ar oror y rhew oera’! Fel palas addas iddynt—oedd y llong, Nawdd llwyr rhag y rhew-wynt; Er curo llawer corwynt—ystormus, Hi ddaliai’n hwylus hir ddalen o’u helynt! Archwylwyr aruchelaf—oeddent, Er trag’wyddol auaf, Heb lesghau yn neddfau Naf, Ar wych for y Goruchaf! Er cael haf, gauaf oer gwyw—ydoedd hwn, Nid oes haul uchehryw Dodda’n fwyn eu dydd heddyw, Yn addwyn fan i ddyn fyw! Os gwelent ynys gulwedd—drwy y niwl, Draw yn y ne’n gorwedd, Er dyrus for, eu dewredd Gariai’r llu i sangu’i sedd. A cheisient gael achosion—newidiad Annedwydd yr eigion; Cadwent daith diffaith y don A’i nwydau mewn cofnodion. Bu’r morwyr hoewbur am hirion—fisoedd Ar y moroedd, mor rhwym braidd a’r meirwon! Rhewog gyfandir ar frig hyf y wendon, Neu gronfa digariad o Alpau geirwon, Symudai, gwgai ar y dig eigion, Yna ysgarai ’i hun yn ysgyrion! Gwawr aur rhyddid a gwell gwir arwyddion Ar y mor dorent mewn grym i’r dewrion! O oer giliau’i arw galon—y llong chwai I ryddid ddaethai mor ddedwydd weithion! Mwy oeddent ymawyddus—archwilwyr, Uchelaf for clodus; Er trachwant y rhew trwchus—byth greulon, Mwy hyf i’r eigion ai’r llong ymfawrygus. Mor llon’ pob calon, pob cawr—a godai I’r gad erch ddirfawr; Rhyddid nef welid yn awr, Ar wyneb mor eirianwawr! Ond wele’i uniad ar frad-olwynion Eto’n ymrwygo tan y mawr eigion; Ac am y morwyr camai y mawrion Fryniau o rew, dan drumau gordrymion, A’u noddfa elai’n hawdd i’w afaelion; Mor gadarn oeddent ei drwm ergydion! Clywch eu hochenaid—cloch eu hachwynion! Tra’r tonau’n croni am dani’n dynion! Gerwinawg wthiwyd y gwyr yn gaethion Ar y dir oror a’i dyrau oerion; Ac heibio aethai eu teg obeithion, Fel niwl y boreu o flaen ei awelon; Ac hawlid dewredd calon—dwyfol bur, I ddal antur mor brudd ei helyntion! Wele y llong ar ael y lli’—yn awr, Un wedd a thlws lili, Ar fron oer mawr rew o fri, A’i dewr galon ar dori! Buan gwelodd y cadben golau Du ing ola’i long fad a’i hangau! Tra arni’r mor yn cau ei ddorau, Ein dewrgu arwr brydai’r geiriau: “O! Jened, laned oedd ar li’,—urddas Ac harddwch y weilgi; Rhag dyrnod drwg du oerni, Nawdd a nyth oedd hon i ni. Brenines, duwies y don,—arglwyddes Bâr ogleddawl eigion, Lwyr giliodd lawr i galon Y dig aig yr adeg hon! Ow! golled, nid oes gallu—ar y mor Ymwriawl i’w leddfu; Neshaodd awr y nos ddu,—a’m dewrion A wel yr eigion yn trylwyr wgu! Er gweled dyfnder gwaeledd,—ac angen Drwg ingoedd mor rhyfedd; Ni bu ail i roi mewn bedd—cynddeiriog, Ein gwych eurog agergwch i orwedd! O! bu ini bob enyd—o’n haerfa Fel arfog dy’n bywyd; Gwnai’m glewion hyfion hefyd, Y gain fun megys gwyn fyd. Ond er hyn o daranu,—uwch yr aig Chwery haul goleugu; Mae gobaith myg ohebu—er pob aeth, A’m hunol dalaeth a’m hanwyl deulu! Mawl i Dduw am ei hael ddawn!—y morwyr, Y dinad arwyr, achubwyd yn diriawn; Os yw’r llong a’i thrysor llawn—mewn dwfr-bant, Ein badau rwygant wyneb du’r eigiawn! Dirion Naf! O dyro nerth—i gyraedd Goror Rwssia anferth! Dyro, Ior, o’r cefnfor certh, Bur redfa i’m gwlad brydferth!” Yna’r cadben trylen trodd, A’i forwyr a fyfyriodd; Y cawr brwd, er cur bron, Rodd araeth wir i’w ddewrion: “Ymwrolwch, er mor o alar, Ar ol lluched y tyr haul llachar; Er mawr boen, o’r mor bâr—awn i gyd, A’i dyrau diwyd i dir daear! O! cyd-unwn er gwanc ei donau, Ac helpwn ein gilydd dros grog Alpau, Yn bur o gariad—pawb ar eu gorau, A’n Hior uniawn a’n harwain a’i riniau, I lunio’n ffordd i lanau—gwareiddiad, A hyny heb oediad, gyda’n badau!” Ar ol cychwyn arlwy cuchiog Y mor enwog, marw, anwar, Wele wed’yn eu hwyl oediog Dan ei finiog don a’i faniar; Creigiau mawrion rhew anffyddlon, Erwin eigion bâr, anhygar; Breuol dorai, chwim-symudai, A didolai’i faes didalar! O! mor araf am hir oriau, Eu dihedog symudiadau, Ar wanegau crwn eigion! Hwy a lusgent yn wir lesgawl Eu holl nwyddau’n llon a haeddawl, Ar ymwriawl fyr mawrion! Anwylo wnelynt Hwyliad eu helynt, Er y mawrwynt, yrai o’r moroedd; Eu gobaith gwibiawl, Ni allai’n hollawl Heulio’n nofiawl ar ael y nefoedd. Er gwaned, eurog wenu—wnai o’r gwyll, A’r gwyr wrtho’n glynu, Er bod dan y dyrnod du A pharod oll i fferu! Mwyn obaith! myn ohebu O’r bedd, bron, â’r galon gu! I gyrau mor agored—hwy ddaethant, Oedd eithaf eu lludded; Ond cryf ydoedd nod eu cred Am eirian fro ymwared! Bu hudol roi y badau—ar y mor, Er eu marwol ofnau; Ond rhanodd hynt y gwynt gau—y tri bad, Ar ei yriad yn y pell ororau! O! un o lionynt sy’n huno—a’i lwyth hoff, Yn y glwth aig heno; Daeth dau’n glir i dir, do,—rhy ddu eu hynt, O wydd eu helynt af i brudd wylo!